Cylchlythyr

Mae Prosiect CHERISH yn mesur, mapio ac astudio safleoedd treftadaeth arfordirol dan fygythiad Iwerddon a Chymru gan ddefnyddio dulliau arloesol amrywiol. Mae’r dull ‘pecyn adnoddau’ o weithredu’n cyfuno disgyblaethau archaeoleg, synhwyro o bell, daearyddiaeth, paleoecoleg, geomorffoleg, arolygu morol, archaeoleg danddwr a geoarolygu er mwyn deall sut mae newid yn yr hinsawdd yn effeithio ar yr arfordir rydym yn ei rannu. Edrychwch ar y gwahanol ddulliau a thechnegau a ddefnyddir gan brosiect CHERISH drwy glicio ar y llun isod neu ddewis un o’r lluniau ar waelod y dudalen.

cyCY