Cyflwyniad
Mae ffotograffiaeth o’r awyr yn parhau’n ffordd bwerus o gofnodi a darlunio tirweddau Cymru ac Iwerddon. Mae’r persbectif o’r awyr yn darparu golygfa o’r dirwedd a chyd-destun y safle, y blociau adeiladu ar gyfer nodweddion eang y dirwedd a dealltwriaeth o’r dirwedd hanesyddol. Mae’r lluniau o’r awyr yn ffordd bwerus o edrych ar safleoedd a thirweddau, ac i fathau penodol o safleoedd (e.e. olion cnydau) dyma’r unig ffordd effeithiol o ddarganfod henebion a’u cofnodi. Fel rhan o CHERISH, mae ffotograffiaeth o’r awyr yn gofnod ar unwaith o gyflwr safleoedd arfordirol sy’n erydu, ac mae’n galluogi arolygu arfordiroedd rhanbarthol cyfan yn gyflym yn dilyn stormydd. Y tu hwnt i’r defnyddiau archaeolegol ar gyfer cofnodi yn ystod prif archwiliadau, dehongli a mapio, maent yn darparu deunyddiau rhagorol ar gyfer addysgu ac enghreifftio.
Mae gan ddefnydd o ffotograffiaeth o’r awyr mewn archaeoleg hanes sy’n ymestyn yn ôl mwy na 100 mlynedd ac mae’n cael ei gydnabod fel un o’r ffyrdd mwyaf effeithiol o gofnodi safleoedd a thirweddau. Mae archifau o ffotograffau o’r awyr yn ffynhonnell gyfoethog ar gyfer adnabod henebion anhysbys fel arall a gallant ddarparu cofnodion unigryw o dirweddau a safleoedd sydd wedi cael eu newid neu eu dinistrio, tra mae ffotograffiaeth o’r awyr yn darparu dull o gofnodi yn ystod prif archwiliadau archaeolegol. Ceir tri dull o dynnu ffotograffau o’r awyr; i ddechrau arolygu rheolaidd i dynnu llun ardal benodol o dir (e.e. tynnu llun fertigol o’r ardal, fel rheol ar gyfer cynllunio / cartograffeg / gwybodaeth filwrol) ac yn ail archwiliadau archaeolegol gan arsylwr yn yr awyr sy’n tynnu lluniau gwrthrychau a welir ac sydd o ddiddordeb. Y trydydd dull, sy’n arloesi mwy diweddar, yw defnyddio dronau neu Gerbydau Awyr Heb Oruchwyliaeth (UAVs) i gynnal arolygon lleol o’r awyr ar safleoedd ac adeiladau hanesyddol.
Ffotograffiaeth o’r awyr
Defnyddir archwiliadau o’r awyr yn eang ym mhob cwr o’r byd ac mae’n rhan o ddisgyblaeth ehangach ‘synhwyro o bell’ gan arolygu archaeoleg yn y dirwedd heb ei chyffwrdd, fel y byddai rhywun wrth gloddio. Mae ‘archaeoleg o’r awyr’ yn cynnwys amrywiaeth eang o weithgareddau arolygu a chofnodi, o arsylwi’r dirwedd oddi uchod a thynnu lluniau i ddehongli a mapio safleoedd o’r ffotograffau sy’n cael eu tynnu. Mae ffotograffiaeth o’r awyr sy’n cael ei chofnodi o awyren adain sefydlog yn parhau’n un o’r adnoddau mwyaf pwerus i gofnodi a monitro treftadaeth arfordirol Cymru ac Iwerddon. Mae ffotograffau o’r awyr ‘lletraws’ a dynnir ar ongl i’r ddaear yn rhoi golygfa fwy realistig o’r dirwedd o safleoedd a henebion. Mae ffotograffau o’r awyr ‘fertigol’ yn cael eu tynnu gan edrych yn syth i lawr ac yn debycach i fap.
Mae cynnal arolygon gan ddefnyddio awyrennau ysgafn yn golygu y gellir archwilio cannoedd o filltiroedd o’r arfordir yn ystod cyfnodau o ddim ond 3 i 4 awr. Mae’r persbectif o’r awyr yn helpu i esbonio cynllun henebion cymhleth, neu ddangos nodweddion ar safle a all fod o’r golwg neu’n anodd cael mynediad atynt ar y ddaear.
Bydd amseriad yr hedfan yn amrywio gyda’r tymhorau. Mae’r gaeaf a’r gwanwyn yn ddelfrydol ar gyfer tynnu lluniau henebion gwrthgloddiau, pan mae llystyfiant isel a golau gwan yn galluogi gweld holl fanylder y safle. Mae golau fflat ac amodau cymylog yn cael eu ffafrio ar gyfer cofnodi henebion ar gyfer modelu 3D Strwythur o Symudiad. Gall hedfan mewn sychdwr yn ystod yr haf ddatgelu ‘olion cnydau’ elfennau coll neu wedi’u claddu ar safle archaeolegol, gydag eglurder nodedig yn aml.
Mae digon i’w weld wrth hedfan dros y parth arfordirol, rhynglanwol a morol. Yn ogystal â’r archwiliad ar gyfer, a darganfod, trapiau pysgod carreg a phren llongddrylliadau a llongau moel, gellir ymestyn y chwilio’n llwyddiannus am gryn bellter oddi ar y lan drwy foroedd bas ar ddyddiau llonydd iawn pan mae’r dyfroedd arfordirol yn nodedig o glir efallai. Mae hyn yn arbennig o bwysig ar gyfer cofnodi llongddrylliadau a all ddangos yn dda yn erbyn gwelyau môr tywodlyd.
Mae ffotograffau a dynnir wrth i CHERISH arolygu safleoedd archaeolegol arfordirol sy’n erydu’n gofnod o gyflwr heneb ar gyfer y dyfodol, gan alluogi cymharu â ffotograffau o’r awyr hanesyddol a dynnwyd o’r 1940au ymlaen a chofnodi newid yn y dyfodol. Hefyd mae meddalwedd bwerus yn galluogi tynnu lluniau unigol o’r awyr o drôn neu awyren ysgafn o amgylch safle a’u cyfuno’n fodel cylchdroi 3D manwl gywir (proses a elwir yn Strwythur o Symudiad).
Olion cnydau
Pan mae nodweddion archaeolegol yn cael eu claddu gallant effeithio ar gyfradd tyfiant y cnydau uwch eu pen. Mae presenoldeb nodweddion fel sylfeini waliau wedi’u claddu neu arwynebau llawr cywasgedig yn arwain at lai o ddyfnder yn y pridd a lefelau lleithder is na’r tir o amgylch. Mae’r cnydau yn union uwch ben y nodweddion hyn yn tueddu i fod â chyfraddau tyfiant is o gymharu â’r planhigion uwch ben dim gweithgarwch archaeolegol, gan arwain at “olion cnydau negatif”.
I’r gwrthwyneb, lle mae ffosydd, pyllau neu nodweddion eraill sydd wedi’u cloddio yn yr is-bridd yn cael eu llenwi dros amser, mae’r cynnydd cymharol yn nyfnder y pridd a’r potensial i ddarparu lleithder pridd cynyddol yn galluogi’r cnydau uwch ben i dyfu’n dalach ac aeddfedu’n hwyrach na’r planhigion o’u cwmpas, gan greu “olion cnydau positif”. Mae olion cnydau negatif a phositif yn haws eu gweld o’r awyr ac fel rheol maent i’w gweld yn ystod cyfnodau o sychdwr pan mae’r cnydau dan straen fwyaf.
Olion priddoedd
Dros amser mae gan weithgarwch dynol botensial i darfu ar broffil pridd lleol. Wrth i bobl gloddio pyllau neu ffosydd yn y pridd neu gyflwyno strwythurau carreg newydd, gallant effeithio ar ymddangosiad y pridd ar yr wyneb. Mae nodweddion fel pyllau a ffosydd, dros amser, yn cael eu llenwi gan ddeunydd sydd yn aml yn wahanol o ran natur i’r pridd o amgylch heb unrhyw darfu, gan gynnwys gwahaniaethau mewn gwead (e.e. maint grawn) neu liw. Gall strwythurau wedi’u claddu, fel waliau a cherrig cywasgedig, ddod i’r wyneb wrth aredig ac yn aml maent yn fwy llachar na’r pridd o’u hamgylch. Mae olion priddoedd yn bresennol fel rheol ar ôl aredig yn yr hydref neu’r gwanwyn.