Sganio Laser yn yr Awyr
Mae sganio laser yn yr awyr (ALS) (sy’n cael ei adnabod hefyd fel LiDAR) yn dechneg synhwyro o bell a ddefnyddir i greu modelau 3D manwl gywir a delweddau o dirweddau. Fel gyda phob technoleg arloesol bron, mae ALS yn ddyfais filwrol ac fe’i datblygwyd i ddechrau i gynnal sganio tanddwr i ganfod llongau tanddwr. Yn y DU, cafodd y dechnoleg ei mabwysiadu’n eang yn ystod y 90au a’i defnyddio i ddechrau gan Asiantaeth yr Amgylchedd i greu mapiau tir i asesu’r risg o lifogydd. Fodd bynnag, ni chafodd potensial ALS ar gyfer arolygu archaeolegol ei gydnabod tan droad y mileniwm.
Yn ymarferol, mae arolwg ALS yn cynnwys trosglwyddo pelydrau laser gweithredol o awyren adain sefydlog at y tir. Mae adlewyrchiad y pelydrau a drosglwyddir yn ôl i’r awyren yn cael eu mesur wedyn i roi gwerthoedd pellter a ddefnyddir i greu Model Gweddlun Digidol (DEM) 3D o’r dirwedd isod. Gall dwysedd y pelydr sy’n dychwelyd roi arwydd hefyd o’r math o ddeunydd yr adlewyrchwyd y pelydr ohono. Gellir defnyddio hyn, ochr yn ochr â’r data uchder, i adnabod a chael gwared ar lystyfiant o DEM. Yn ei dro mae hyn yn cynnig golygfa o nodweddion cudd a thirweddau sydd wedi’u cuddio gan lystyfiant efallai. Mae Systemau Lloeren Llywio Byd-eang (GNSS), neu Systemau Lleoli Byd-eang (GPS) fel maent yn cael eu hadnabod yn fwy cyffredin, yn cael eu defnyddio hefyd wrth arolygu i sicrhau bod y model 3D yn cael ei geo-leoli ar y ddaear.
Defnyddio ALS fel rhan o Brosiect CHERISH
Cynhaliwyd arolygon ALS cyntaf CHERISH yn 2017 ar chwe ynys yng Nghymru (Ynys Seiriol, y Moelrhoniaid, Ynys Enlli, Sant Tudwal, Ynys Dewi ac Ynys Gwales). Mae’r data manylder 0.25cm wedi cael eu defnyddio i fapio nodweddion archaeolegol yn fanwl gywir i greu mapiau newydd o’r holl archaeoleg ar ei sefyll ar bob ynys. Yn Iwerddon, mae arolwg ALS wedi cael ei gomisiynu ar gyfer yr ardal o amgylch Bae Dulyn. Hefyd mae data ALS wedi cael eu defnyddio ochr yn ochr â ffotograffiaeth o’r awyr gan ddarganfod llawer o olion cnydau ar draws yr ynysoedd.
Data LiDAR sydd ar gael i’r cyhoedd
Mae data LiDAR ar gael fwyfwy a gellir eu gweld a’u lawrlwytho am ddim yn aml. Gellir lawrlwytho cyfresi data LiDAR cenedlaethol o’r safleoedd canlynol:
- Cymru: Geoborthol Lle
- Iwerddon: Gwyliwr Data Topograffig Agored