Ymchwil Archifol
Mapiau Hanesyddol
Mae gan y Llyfrgell Brydeinig yn Llundain atlasau, mapiau a siartiau o harbyrau wedi’u llunio ar gyfer masnach ac amddiffyn. Mae ganddi hefyd luniau gan ymwelwyr a swyddogion trefi a chefn gwlad. Mae llawer o'r siartiau hanesyddol a chyfarwyddiadau hwylio o'r Morlys wedi symud i'r Llyfrgell Brydeinig ond mae rhai yn Taunton o hyd. Mae hyn yn cynnwys yr arolygon a luniwyd â llaw gan y morwyr. Mae siartiau yn aml yn cynnwys golygfeydd o’r môr o sut roedd yr arfordir yn edrych yn uniongyrchol i’r syrfewyr.
Mae gan yr Archifau Cenedlaethol yn Kew deitlau llongddrylliadau, llythyrau gan gapteiniaid am stormydd a pheryglon i longau o'r 17eg ganrif, ac am adeiladu amddiffynfeydd Napoleonig newydd, a gohebiaeth ynghylch gwella harbyrau. Mae gan Archifau Cenedlaethol Iwerddon ddatblygiadau harbwr tebyg, fel treillio Afon Boyne yn y 19eg ganrif a gafod wared ar rydau hynafol ond a oedd yn caniatáu mynediad i fyny'r afon i Drogheda.
Mae Llyfrgell Genedlaethol Iwerddon yn cynnwys cyfarwyddiadau peilota o amgylch yr arfordir. Mae gan Goleg y Drindod Dulyn a Choleg Prifysgol Dulyn lyfrgelloedd mapiau ac adnoddau ar-lein. Mae gan Amgueddfa Genedlaethol Iwerddon archif dopograffig o ohebiaeth a disgrifiadau am ddarganfod arteffactau. Mae gan y Gwasanaeth Henebion Cenedlaethol lawer o gofnodion am safleoedd archaeolegol, gan gynnwys rhestr o longddrylliadau, gyda gwybodaeth am arolygon a gwaith cloddio. Mae hyn yn cynnwys arolygon o'r awyr a ffotograffau hŷn o henebion arfordirol i'w cymharu â'r safle heddiw.
Darluniau Hynafiaethol
Mae siartiau, darluniau a ffotograffau pellach yn cael eu harddangos gan amgueddfeydd fel yr Amgueddfeydd Morwrol Cenedlaethol yn Dunlaoghaire a Greenwich. Mae ganddynt hefyd arteffactau i'w cymharu â'r hyn a ganfuwyd yn yr arolygon arfordirol. Gall hyn arwain at ddeall llywio a defnyddio'r safleoedd arfordirol.
Mae mwy o archifau lleol ar gyfer siroedd, trefi a harbyrau fel Dulyn Dinesig, Sir Dulyn, a Phorthladd Dulyn. Wedyn ceir archifau preifat, y gellir eu gweld gyda chaniatâd arbennig, fel Stad Woodhouse yn Stradbally, Sir Waterford.
Dogfennau Hanesyddol
Mae ffynonellau archifol nid yn unig yn cyfrannu at lunio hanes hinsawdd a thywydd manwl ond hefyd yn darparu naratif dyfnach o brofiad unigolyn neu gymuned o dywydd eithafol. Yma gallwn edrych ar sut ymatebodd pobl i ddigwyddiadau penodol, pa mor barod oeddent a'r mathau o strategaethau ymdopi a fabwysiadwyd. Ceir cyfoeth o ddeunydd yn ein storfeydd cenedlaethol yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac Archifau Cenedlaethol Iwerddon , yn ogystal â mewn nifer o archifau a llyfrgelloedd rhanbarthol. Mae aelodau tîm CHERISH wedi bod yn rhan o ddatblygu cronfa ddata (TEMPEST) o gofnodion naratif am eithafion tywydd hanesyddol ledled y DU fel rhan o'r prosiec Weather Extremesa ariennir gan yr AHRC. Byddwn yn adeiladu ar yr ymchwil hwn ac ymchwil blaenorol yn Iwerddon (e.e. Sweeney, 2002) drwy gasglu tystiolaeth am stormydd hanesyddol, llifogydd a newid arfordirol a’r effeithiau cysylltiedig o ystod o ffynonellau fel dyddiaduron a gohebiaeth bersonol; cofnodion teithio; adroddiadau papur newydd; llyfrau log; mapiau; siartiau a ffynonellau llenyddol.