Cronoleg
Un agwedd bwysig ar ymchwil palaeoamgylcheddol yw'r gallu i benderfynu'n fanwl gywir ar amseriad newid hinsoddol neu amgylcheddol mewn cofnod gwaddod neu oedran arteffact neu nodwedd archaeolegol. Mae Prosiect CHERISH yn defnyddio dwy dechneg wahanol yn rheolaidd i ddarparu'r fframwaith dyddio ar gyfer cyfresi gwaddodol ac ymchwiliadau archaeolegol: dyddio radiocarbon a dyddio goleuedd. Mae cyfuniad o'r dulliau hyn yn golygu y gallwn ddyddio amrywiaeth ehangach o fathau a chyd-destunau sampl. Os gellir defnyddio'r ddwy dechneg, mae hwn yn gyfle gwerthfawr i draws-ddilysu amcangyfrifon oedran.
Dyddio Radiocarbon
Mae dyddio radiocarbon yn seiliedig ar yr egwyddor bod pob organeb fyw yn amsugno carbon deuocsid yn ystod eu hoes, a bod cyfran o'r carbon hwnnw sy'n ymbelydrol (radiocarbon neu 14C), yn pydru ar gyfradd gyson ar ôl marwolaeth. Drwy fesur faint o 14C sy'n weddill mewn deunydd planhigion, cregyn neu esgyrn, gellir amcangyfrif pa mor bell yn ôl roedd yr organeb honno'n fyw. Mae dyddio radiocarbon yn gyffredinol addas ar gyfer samplau sy'n amrywio o ychydig gannoedd o flynyddoedd oed hyd at 50,000 oed, sy'n ddelfrydol ar gyfer yr amserlen sy'n cael ei hystyried gan Brosiect CHERISH. Mae datblygiadau mewn technegau dadansoddi’n golygu y gellir dyddio samplau bach iawn sy'n cynnwys cyn lleied â 2 mg o garbon, a dyma'r dull cronolegol a ddefnyddir ehangaf mewn astudiaethau palaeoamgylcheddol. Mae’r amrywiad yn y cynhyrchu tymherus ar 14C, amrywiant cyfran yr 14C mewn systemau naturiol, ailgylchu “hen garbon” gan organebau a llygru â deunydd iau neu hŷn i gyd yn ffynonellau posib o wall. Felly mae'n well dyddio deunydd organig y gellir ei adnabod, fel siarcol, pren a deunydd planhigion daearol, sy'n cynrychioli'r dewis gorau ar gyfer dadansoddiad 14C o waddodion.
Dyddio Goleuedd a Ysgogir yn Optegol (OSL)
Mae dyddio OSL yn defnyddio gallu ymbelydredd sy'n digwydd yn naturiol (wraniwm, thoriwm a photasiwm) i gael ei ddal o fewn strwythur crisialog mwynau fel cwarts a ffelsbar. Mae'r ymbelydredd yn cronni pan fydd gronynnau mwynau’n cael eu claddu yn y ddaear, ond yn cael eu rhyddhau pan fyddant yn agored i olau haul. Mae samplau a ddiogelir rhag dod i gysylltiad â golau dydd yn cael eu hysgogi yn y labordy gyda golau tonfedd benodol, i ryddhau'r ymbelydredd sydd wedi'i storio ar ffurf golau, a thrwy fesur y disgleirdeb gellir amcangyfrif pryd oedd y gronynnau mewn cysylltiad â golau’r haul ddiwethaf cyn eu claddu. Mae Labordy Ymchwil Goleuedd Aberystwyth (ALRL) yn Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear Prifysgol Aberystwyth yn arwain y byd o ran datblygu a defnyddio dulliau dyddio goleuedd mewn ymchwil amgylcheddol ac archaeolegol.