Asesiad Parth Arfordirol
Mae arfordiroedd Cymru ac Iwerddon yn ffurfio darn helaeth o dirwedd, ac mae asesiadau parthau arfordirol yn darparu dull cyflym, ond manwl, o gasglu gwybodaeth am yr amgylchedd hanesyddol, am ddaeareg a geomorffoleg yr arfordir, ac am erydiad ar amser penodol.
Methodoleg
Ers y 1990au mae Asesiadau Parth Arfordirol wedi cael eu cynnal yng Nghymru, yr Alban a Lloegr sy'n dilyn methodoleg debyg yn fras sef:
- Asesiad Seiliedig ar Ddesg - Nodi'r adnodd archaeolegol, gan ddefnyddio cofnodion amgylcheddol hanesyddol, mapio, ffotograffiaeth o’r awyr a setiau data eraill fel LiDAR.
- Arolwg Maes - Lle mae tîm o archaeolegwyr, ac mewn rhai achosion daearegwyr, yn cerdded yr arfordir yn cofnodi ei ddaeareg a'i geomorffoleg ac yn asesu ei statws erydiad; a lleoli, gwirio, adnabod a chofnodi nodweddion archaeolegol a'u statws erydiad. Arolwg cyflym yw hwn sy'n defnyddio mapiau, ffurflen gofnodi a ffotograffiaeth i ddarparu cofnod gweledol a lefel sylfaenol o arolygu.
- Adrodd - Cynhyrchu adroddiad yn amlinellu ardal yr arolwg, y fethodoleg, y canlyniadau a'r argymhellion gyda mapiau a mynegai cysylltiedig. Mae data sy'n ymwneud â safleoedd archaeolegol a henebion yn cael eu hymgorffori yn aml hefyd yn y Cofnodion Amgylcheddol Hanesyddol perthnasol.
Esiamplau o Asesiadau Parth Arfordirol
Mae gwybodaeth a gesglir drwy asesiadau parth arfordirol yn darparu set ddata sylfaen hynod werthfawr am sefydlogrwydd yr arfordir, natur a graddfa archaeoleg y parth arfordirol, y bygythiadau a chyfraddau’r erydiad i'r archaeoleg honno ynghyd ag argymhellion ar gyfer ei rheoli'n briodol. Un canlyniad i'r asesiadau hyn fu mentrau fel Arfordir yng Nghymru, SCHARP (Prosiect Treftadaeth Arfordirol mewn Perygl yr Alban) yn yr Alban a CITiZAN (Rhwydwaith Archaeolegol y Parth Arfordirol a Rhynglanwol) yn Lloegr sy'n gweithio gydag unigolion a chymunedau i ddarparu data ychwanegol a monitro tymor hwy ar yr archaeoleg yn y parth arfordirol. Mae SCHARP a CITiZAN yn defnyddio Ap sy'n caniatáu i wirfoddolwyr gasglu a chyflwyno gwybodaeth, ac mae Ap tebyg yn cael ei ddatblygu gan CHERISH ar gyfer Iwerddon a Chymru.
Gweithgareddau yn Iwerddon
Gweithgareddau yng Nghymru
Yng Nghymru, rydym wedi defnyddio data Lidar CHERISH a gasglwyd ar 6 ynys – y Moelrhoniaid, Seiriol, Enlli, dwy ynys Tudwal a Gwales - fel ein prif set ddata sylfaen, gan greu mapiau archaeolegol newydd sydd wedyn yn cael eu gwirio ar y tir. Yn ystod ymweliadau â’r ynysoedd, rydym hefyd yn cerdded yr arfordir i gofnodi daeareg a geomorffoleg, ac asesu statws erydiad.