Cylchlythyr

Arolwg Morol

Mae prosiect CHERISH yn casglu ystod o setiau data geoffisegol morol sy'n pennu bathymetreg (dyfnder dŵr) ardal yr arolwg a natur y gwaddodion ar wely'r môr ac oddi tano. Cyflawnir hyn gan ddefnyddio amrywiaeth o adnoddau a amlinellir isod.

Photograph of GSI Inshore survey fleet. Left to Right: RV Keary, RV Lir, RV Geo and RV Mallet
GSI Inshore survey fleet. Left to Right: RV Keary, RV Lir, RV Geo and RV Mallet

Ecoseinydd Amlbelydr (MBES)

Ar gyfer yr arolygon dŵr bas o amgylch Iwerddon a Chymru, mae CHERISH yn defnyddio ecoseinwyr amlbelydr Kongsberg Simrad EM2040, EM2040P a Reson T20P (MBES). Gwelwyd bod y rhain yn rhoi cydbwysedd boddhaol o ran ansawdd a dwysedd data ynghyd â sylw effeithlon mewn ardaloedd.

Ar lefel sylfaenol, mae'r troswyr MBES sy’n cael eu gosod ar longau’n allyrru sain rhwng 200 a 400 kHz sy'n teithio i lawr trwy'r golofn ddŵr. Gan ei bod yn don sain amledd uchel, pan fydd yn cyrraedd gwely'r môr, adlewyrchir y rhan fwyaf yn ôl tuag at yr arwyneb lle mae synwyryddion yn cofnodi'r don sain sy'n dychwelyd. Mae systemau amlbelydr yn allyrru tonnau sain mewn siâp ffan o dan gorff llong. Defnyddir faint o amser mae'n ei gymryd i'r tonnau sain fownsio oddi ar wely'r môr a dychwelyd i dderbynnydd i benderfynu ar ddyfnder y dŵr. Mae systemau amlbelydr yn defnyddio ffurfiad pelydrau i echdynnu gwybodaeth gyfeiriadol o'r tonnau sain sy'n dychwelyd, gan gynhyrchu ystod o ddarlleniadau dyfnder o un neges. Er mwyn penderfynu ar y trosglwyddo a derbyn ongl pob pelydr, mae ecoseinydd amlbelydr yn gofyn am fesur symudiad y sonar yn fanwl gywir mewn perthynas â system gyfesurynnau Cartesaidd. Y gwerthoedd a fesurir yn nodweddiadol yw ymchwydd, tafliad, treigl, gwyriad a phen.

Prif swyddogaeth Ecoseinydd Amlbelydr yw defnyddio egni acwstig i gyfrifo dyfnder. Fodd bynnag, mae Systemau Amlbelydr fel y Kongsberg EM2040 hefyd yn casglu gwybodaeth ychwanegol, gan gynnwys cryfder y signal acwstig (neu ei ddychwelyd) o wely’r môr. Gelwir hyn yn Ôl-wasgariad. Bydd gan wahanol fathau o wely’r môr, fel mwd, tywod, graean a chraig, werthoedd Ôl-wasgariad gwahanol yn dibynnu ar faint o egni maent yn ei ddychwelyd i'r pen sonar. Yn nodweddiadol, bydd ardaloedd creigiog yn dychwelyd ar lefel uchel ond gwaddodion meddal fel mwd yn fwy tebygol o amsugno egni a bydd lefel yr Ôl-wasgariad yn is. Defnyddir y gwahanol werthoedd hyn i gynhyrchu delwedd trefn lwyd (h.y. tywyll ar gyfer dychweliad uchel, llachar ar gyfer dychweliad isel) o wely'r môr a gellir ei defnyddio i archwilio natur gwely’r môr.
Defnyddir data allbwn o'r MBES wrth gynhyrchu siartiau dosbarthiad gwely'r môr, rhyddhad cysgod, cyfuchlinau bathymetrig ac ôl-wasgariad.

Ecoseinydd Pelydr Sengl (SBES)

Mae Ecoseinydd Pelydr Sengl Kongsberg Simrad EA400 (SBES) yn gweithio ar egwyddor debyg i'r MBES. Fodd bynnag, yn achos SBES, mae egni acwstig yn cael ei gyfeirio yn syth i lawr o gorff y llong yn hytrach na'r ystod o belydrau a welir yn MBES. Mae hyn yn golygu mai dim ond ar hyd llwybr y llong, gyda phelydr sengl, y gellir mesur dyfnder y dŵr. O ganlyniad, mae'r data allbwn o SBES ar ffurf proffil o gymharu â'r arwynebedd a gynhwysir gan MBES.

Pingiwr Seismig Bas / Proffiliwr Is Waelod (SBP)

Mae’r systemau hyn yn gweithredu mewn ffordd debyg i SBES, ond ar amleddau is. Mae system pingiwr yn trosglwyddo amledd sengl (~4 kHz) ac mae’r system drydar yn trosglwyddo casgliad o amleddau (e.e. 2-7 kHz) mewn un pwls. Mae’r pingiwr SES Probe 500 yn cael ei adlewyrchu o wely’r môr ac yn treiddio drwyddo. Gall y sain sy’n treiddio drwy wely’r môr gael ei adlewyrchu oherwydd newidiadau dwysedd yn y gwaddodion. Y canlyniad yw cyfres o donnau sain yn dychwelyd i’r llong ar amseroedd ychydig yn wahanol gan ddibynnu ar ba mor ddwfn yw’r treiddio drwy’r gwaddod cyn dychwelyd. Dangosir y rhain yn allbwn y pingiwr fel cyfres o haenau y gellir eu dehongli i ddatgelu patrymau gwaddodion y gorffennol ar gyfer yr ardal. Mae treiddiad ac felly ansawdd data’r pingiwr yn dibynnu ar y math o waddod (da drwy dywod, gwael drwy raean a chreigwely) a chynnwys nwy (gwael drwy waddodion nwyol). Gellir sicrhau dyfnder o hyd at 30 m mewn gwaddodion meddal.

Image of example of Sub-Bottom Profile (SBP) data
Esiampl o ddata Proffil Is Waelod (SBP)

Sbarciwr Seismig

Mae sbarciwr Geo-Spark 200 yn ddarn arall o offer a ddefnyddir ar gyfer ymchwiliadau dan wely’r môr lle mae angen treiddio dyfnach neu os yw gwaddodion garw/cywasgedig yn atal mapio. Gan weithredu ar amleddau isel (500 – 2000 Hz), mae’r uned yn cael ei llusgo tu ôl i’r llong, gan drosglwyddo pwls mwy pwerus o sain i wely’r môr.

Sonar Sgan Ochr

Pan fydd angen gwybodaeth manylder uchel am nodweddion gwely'r môr penodol (e.e. mapio cynefinoedd neu ymchwiliadau llongddrylliadau), defnyddir sonar sgan ochr. Yn cael ei lusgo tu ôl i'r llong ac yn agos at wely'r môr, mae'n trosglwyddo pwls sain amledd uchel sy'n mapio gwely'r môr ar y naill ochr i'r uned. 

Mae CHERISH yn defnyddio'r Sonar Sgan Ochr (SSS) Edgetech sy'n caniatáu cynhyrchu delweddau o wely'r môr. Yn wahanol i’r system pingiwr, mae SSS yn defnyddio tonnau sain wedi’u cyfeirio’n unionsyth i’r cyfeiriad teithio i ‘weld’ gwely’r môr ar y naill ochr i’r pysgod a lusgir. Y canlyniad yw delwedd lle mae'r sain sy'n dychwelyd yn cau allan yr ardal ganolog o dan y pysgod. Gan symud oddi wrth y llinell ganol hon, mae gwrthrychau a nodweddion ar wely'r môr yn cael eu codi i gynhyrchu delweddau cymharol fanwl o wely’r môr. Mae prosiect CHERISH yn defnyddio SSS i sicrhau delweddau da o longddrylliadau sydd wedi'u nodi ar yr MBES.

Magnetometr

Mae magnetometr yn canfod newidiadau yn y maes magnetig sy’n amrywio dros ardal eang yn ôl daeareg neu’n lleol dros wrthrychau haearnaidd fel llongddrylliadau. Mae ei siâp silindr a’i allu positif i arnofio wedi’u cynllunio’n arbennig i leihau risg o fachu mewn gêr angori a cholli offer.

Proffiliwr Cyfredol Doppler Acwstig (ADCP)

Mae prosiect CHERISH yn bwriadu cael uned ADCP y gellir ei gosod ar longau a fydd yn galluogi'r tîm i fesur cyflymder cerrynt dŵr dros ystod o ddyfnderoedd er mwyn deall y prosesau sy'n effeithio ar rai safleoedd tanddwr. Mae unedau ADCP yn defnyddio effaith Doppler tonnau sain wedi'u gwasgaru'n ôl o ronynnau yn y golofn ddŵr.

Proffiliwr Cyflymder Sain (SVP)

Offeryn sy'n cael ei daflu dros ochr y llong ac sy’n mynd i lawr i wely’r môr yw proffiliwr cyflymder sain. Ei bwrpas yw mesur cyflymder y sain drwy'r golofn ddŵr. Mae nifer o ffactorau’n effeithio ar gyflymder sain yn y golofn ddŵr fel; tymheredd, pwysedd, gwaddodion, mewnlifiad dŵr croyw / cyrff o ddŵr yn cymysgu a halltedd. Mae plygiant yn ymddangos yn y data os na cheir digon o SVP yn ystod gweithrediadau arolygu.

Gwirio ar y Tir

Mae hyn yn cynnwys y dilysu uniongyrchol ar y dehongliad o ddata sonar a data eraill a sicrheir yn uniongyrchol. Dyma rai technegau a ddefnyddir:

  • mesur dyfnder dŵr yn uniongyrchol
  • samplu uniongyrchol ar wely'r môr a dadansoddiad biolegol, daearegol a chemegol dilynol
  • defnyddio camerâu fideo i archwilio gwrthrychau a nodweddion sy'n cael eu dynodi gan ddulliau sganio anuniongyrchol.

GNSS

Rydym yn defnyddio system Aplannix POS MV (System Leoli a Chyfeirio ar gyfer Cerbydau Morol) sy’n cynnwys antena, uned cyfeirio symudiad (MRU) ac uned uchaf. Mae hyn yn rhoi gwybodaeth lleoliad GNSS amser real i ni ac yn galluogi i ni gywiro ar gyfer ymchwydd, tafliad, treigl, gwyriad a phen.

Cynnwys Cysylltiedig

Other Activities

cyCY